Y Daith i Aur!

Yn 2014, cafodd yr ysgol ei rhoi mewn mesurau arbennig. Dw i’n cofio’r diwrnod mor glir. Roedd y geiriau “mesurau arbennig” yn teimlo fel tunnell o friciau yn cwympo arnom ni. Cawson ni ein labelu fel ysgol a oedd yn methu, a wnes i grio.

Roeddwn yn stryglo y diwrnod nesaf i beidio ag aros yn y gwely dan y duvet twym a chuddio rhag y label hwnnw – label cyhoeddus a oedd yn dweud nad oeddem ni’n ddigon da, a label roedden ni i gyd yn ystyried yn bersonol iawn. Ond codais i, gwisgais i a phenderfynais i ein bod ni i gyd yn haeddu rhywbeth gwell, i’r plant, y staff, ein rhieni a’r gymuned, a byddai’n rhaid iddo ddechrau heddiw! Doedd teimladau yn yr ysgol ddim wedi bod mor isel erioed, ac fel uwch arweinydd, fy ngwaith i oedd ceisio annog pobl i deimlo’n fwy optimistaidd, ac roedd hynny’n anodd ar brydiau. Felly, penderfynais ddechrau gyda mi fy hun a dechreuais gwrs ymwybyddiaeth ofalgar 8 wythnos. Roedd hyn yn her i mi gan bod pobl yn cyfeirio ataf fel ‘chwyrlwynt’ yn aml! Rhoddodd y cwrs gyfres o sgiliau i mi fyw yn yr foment a dysgu i stopio, anadlu a bod. Roedd y neges bwysig honno yn mynd i fod yn fuddiol iawn yn ystod y daith anodd o’n blaenau.

Dechreuais drafod ymwybyddiaeth ofalgar â staff, ac yn fy swydd fel uwch arweinydd, sylwais fod gen i ragolwg ehangach wrth ddelio â staff a straen mewn cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith. Felly, trefnais sesiwn blasu ymwybyddiaeth ofalgar yn yr ysgol, a oedd yn llawn o fewn ychydig o oriau o anfon yr e-bost, ac roedd hedyn ymwybyddiaeth ofalgar wedi ei blannu go iawn. Roedd effaith y cwrs hwn yn gadarnhaol a dechreuodd staff fodelu ymddygiad a ddysgwyd ar y cwrs ymwybyddiaeth ofalgar. Roedd staff yn teimlo eu bod wedi meddwl amdanyn nhw eu hunain ac roedd eraill wedi datblygu gobaith.

Wedyn, es i ati i gynllunio treial i’r myfyrwyr. Trefnais i Gareth Cloude, ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys, redeg sesiwn flasu arall. Gwnaeth hyn gyda’r holl fyfyrwyr ym mlwyddyn 8 a 9. Ar ddiwedd y sesiwn, gofynnwyd i’r myfyrwyr fynegi diddordeb yn y cwrs trwy gwblhau cais. Roedd mwy na 60% o fyfyrwyr wedi cwblhau’r cais ac wedi cyfiawnhau eu rhesymau ac wedi gofyn i ddilyn y cwrs. Roedd hyn wedi dangos i ni, fel Coleg, fod myfyrwyr yn clustnodi pryderon iechyd a lles yn gynnar, ac roedd dyletswydd gofal arnom ni ar y cyd i fynd i’r afael â’u hanghenion. I mi – roedd hyn yn nodi’n glir yr angen am help!

Roeddem wedi clustnodi’n glir, trwy ddata a dyfarniadau proffesiynol, garfan o fyfyrwyr a fyddai’n elwa’n llwyr o ddilyn cwrs ymwybyddiaeth ofalgar. Doedd hynny ddim yn hawdd. Roeddem ni’n dadlau am sbel ac wedi cynhyrchu rhestr o 16 o fyfyrwyr. Grŵp cymysg oedd hwn a oedd yn cynnwys bechgyn/merched, a myfyrwyr CLA, FSM ac ALN. Roedd y canlyniadau’n dangos bod:

  • 100% wedi meddwl bod y cwrs yn ddefnyddiol
  • 100% wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn
  • 100% wedi dweud eu bod yn hynod o debygol o barhau i ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar
  • 85% wedi dweud ei fod wedi eu helpu i ymdopi ag anawsterau
  • 67% wedi dweud ei fod wedi helpu gyda chanolbwyntio
  • 67% wedi dweud ei fod wedi helpu gydag arholiadau

Roedd ymddygiadau eraill a arsylwyd yn cynnwys bachgen ifanc yn dioddef o Tourette’s a ‘tics’, oedd ddim yn ‘ticio’ yn ystod y sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar. Roedd myfyrwyr â lefelau pryder uchel wedi ennill hyder a datblygu’r offer i oresgyn panig, ac yn fwy na dim roedd y myfyrwyr wedi datblygu ymdeimlad o obaith.

Ariannu

Roedd y tân wedi cynnau! Roeddwn ar genhadaeth. Roedd y data a’r arfarniad cadarnhaol yn dangos bod ymwybyddiaeth ofalgar wedi cael effaith ar 16 myfyriwr, ac roedd angen cael effaith ar bob myfyriwr, felly dyma fan cychwyn y freuddwyd a’r cynllunio strategol. Roedd fy nghydweithwyr a’m pennaeth yn cefnogi fy ngweledigaeth glir wrth ddatblygu hwb ymwybyddiaeth ofalgar ac mae fy mhennaeth wedi cymryd rhan yn y cwrs 8 wythnos, ac wedi syrthio i gysgu mewn o leiaf ddwy o’r sesiynau! Roedd y daith i ddatblygu lles i bawb wedi dechrau go iawn. Fodd bynnag, roedd un rhwystr mawr i’w oresgyn....... sef arian! Roedd angen £11,000 arnaf i gwblhau ymchwil gweithredu. Es i at bawb. Ces i gefnogaeth gan Leanne Wood, ein cyfarwyddwr addysg Esther Thomas, yn ogystal ag Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams, a roddodd amser a chefnogaeth i’r ymchwil gweithredu hwn. Wedyn, cytunodd Consortiwm Canolbarth y De i gefnogi fy ymchwil gweithredu lles. Roedd y ffordd i’r ddinas emrallt mewn golwg!

Mae’r ymchwil gweithredu wedi rhoi modd i mi ddatblygu hwb ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi ei gwreiddio’n llawn ym mywyd yr ysgol erbyn hyn. Rydym yn dechrau’r diwrnod yn gadarnhaol gyda myfyrdod ystyriol – pob un ohonom ni, y staff a’r myfyrwyr. Mae’r holl fyfyrwyr CA3 a CA4 penodol yn dilyn y rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar. Rydym ar ail rownd y cwrs staff, sy’n ddigwyddiad poblogaidd ar ôl yr ysgol, a’r flwyddyn nesaf byddwn yn lansio ein cwrs cymunedol, sy’n targedu rhieni gyda golwg ar leihau’r bwlch tlodi.

Yr effaith hyd yn hyn

  • Mae absenoldeb staff wedi lleihau’n ddramatig.
  • Mae presenoldeb myfyrwyr wedi gwella.
  • Mae canlyniadau’r ysgol wedi gwella.
  • Mae categoreiddio wedi symud o Goch i Felyn.
  • Rydym yn chwarter 1 ar gyfer mathemateg, gwyddoniaeth, y sgôr pwyntiau cyfartalog wedi’i chapio, 8 wedi’i gapio yn cynnwys Saesneg a mathemateg a thystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru
  • Rydym wedi hyfforddi grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 10 mewn hyfforddi a lles. Maen nhw wedi dod yn llysgenhadon ymwybyddiaeth ofalgar. Maen nhw wedi dylunio logos ac iwnifform. Mae lanyards a chardiau adnabod ganddynt. Maen nhw’n cynnig cymorth i gyfoedion ac yn cynnal gorsaf bob amser egwyl.
  • Rydym wedi datblygu agwedd agored at iechyd meddwl ac mae staff wedi cael eu hyfforddi mewn iechyd meddwl ieuenctid.
  • Lansiodd ein grŵp celfyddydau perfformio blwyddyn 11 ddogfen ‘Agenda’ Llywodraeth Cymru, sy’n hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol a derbyn trwy gynhyrchiad gonest, sydd wedi ei gyflwyno mewn gwasanaeth ysgol gyfan erbyn hyn.
  • Rydym wedi sefydlu system olrhain fanwl gywir ar gyfer lles lle mae’r panel yn cwrdd yn dymhorol ac mae lle amlwg i iechyd meddwl ar yr agenda. Mae hyn yn rhoi modd i’r ysgol adnabod myfyrwyr allweddol yn fanwl gywir ac yn gynnar.
  • Mae staff ac arweinwyr wedi modelu agwedd agored ein bod ni i gyd yn ‘fodau dynol’ ac rydym wedi arfarnu cyfarfodydd i gynnwys cydbwysedd o ran cefnogaeth ac atebolrwydd.
  • Mae sticeri .b o gwmpas y Coleg i’n hatgoffa i stopio, anadlu a bod.
  • Bu effaith ar ddiwylliant ac ethos. Mae gennym darged caredigrwydd Nadolig random hefyd.
  • Bu datblygiad o ran gwydnwch, a arsylwyd ar lawr y dosbarth, ymddygiad a pherfformiad. Dyw myfyrwyr ddim yn ofni mynd i’r afael â heriau.
  • Mae diwylliant o ‘Dw i’n gallu’ neu ‘Dw i ddim yn gallu ............ eto’ ac rydym wedi cael ein tynnu o fesurau arbennig!

Gwobr Pearson

Mae’r agwedd agored a charedig sy’n cael ei hyrwyddo yn yr ysgol wedi gadael argraff barhaol ar ddau o’n myfyrwyr chweched dosbarth a oedd wedi cymryd amser i ysgrifennu at Pearson i ddweud diolch i mi. Maen nhw wedi dweud ‘Miss, rwyt ti’n haeddu Oscar’ a dw i’n ddiolchgar eu bod wedi gweithredu ar hynny.

Wedyn, yn gwbl annisgwyl, ces i gerdyn diolch arbennig gan Pearson a oedd yn syrpreis rhyfeddol. Yn naturiol, dangosais i hwn i bawb yn yr ysgol. Roeddwn yn ddiolchgar iawn. Heb i mi wybod, roedd fy mhennaeth yn cwblhau dogfen yn cyflwyno tystiolaeth am y rhesymau dylwn i gael fy enwebu ar gyfer y rownd nesaf. Wedyn, cysylltodd Pearson i ofyn i ymweld â’r ysgol i ddilysu a chraffu ar y rhesymau roeddwn yn haeddu cyrraedd y rownd derfynol! Roedd y nerfau yn amlwg iawn! Ond ar ôl bod mewn mesurau arbennig a mynd trwy graffu, roeddwn yn barod i ddangos pam rydym ni a pham dylwn i fod yn y rownd derfynol. Pan ofynnais i gydweithwyr, rhieni, cyn-fyfyrwyr a staff i gwrdd â’r panel, roedd yr ymateb yn rhyfeddol. Roeddent i gyd yn awyddus i ddweud pam roeddwn yn haeddu bod yn athrawes y flwyddyn! Roedd yn foment fythgofiadwy. Daeth cyn-fyfyrwyr yn ôl, a dywedodd un ohonynt sut roeddwn wedi ei helpu i ennill hunanbarch pan gollodd ei gwallt a gwnes i ei helpu i ennill A* yn y celfyddydau perfformio. Dywedodd un rhiant y gallwn ddatrys unrhyw beth. Dywedodd myfyriwr fy mod yn rhan fawr o’i fywyd am y gefnogaeth a roddais iddo. Dywedodd cydweithiwr fy mod yn athrawes ragorol, “Dw i ddim yn gwybod sut mae hi’n ei wneud.” A dywedodd pob un ohonynt ei bod hi’n athrawes ragorol sy’n cyflwyno bob amser. Ac roedd hi’n anhygoel clywed y geiriau hyn amdana i, pan dw i’n meddwl fy mod i ond yn gwneud fy swydd. Fel athrawes, mae hi mor hawdd tanamcangyfrif eich effaith ar bobl.

Ym mis Mehefin, roedd diwrnod ‘dweud diolch wrth athro’, a ches i fy synnu gan wobr arian ar gyfer athro’r flwyddyn mewn ysgol uwchradd. Roedd hi’n gyffrous bod un o’n hathrawon yn ennill gwobr yn y gwasanaeth! Roedd y gobaith a’r gred hon ‘ein bod yn gallu gwneud’ yn ymddangos o flaen ein llygaid. Wedyn, ces i wahoddiad i Dŷ’r Cyffredin am de prynhawn. Doeddwn i ddim wedi bod o’r blaen, ac roedd ein AS lleol Chris Bryant wedi rhoi taith o gwmpas y lle i mi. Ces i ddiwrnod gwych, a mwynheais y profiad o fod yn un o’r enwogion am y dydd, ond nid dyma oedd diwedd y daith. Cyrhaeddais y rownd derfynol a ches i wahoddiad i Canary Wharf i seremoni lle cyhoeddwyd yr enillwyr. Daeth fy ngŵr, fy rhieni, ffrindiau, pennaeth, llywodraethwyr a chydweithwyr i’r seremoni. Roeddwn yn nerfus dros ben trwy gydol y seremoni. Roeddwn yn gwybod fy mod wedi ennill hyd yn hyn ond y teimlad o beth allai fod...... Wedyn, daeth Diane Parish i’r llwyfan i enwi’r enillydd, a darllenodd “The winner of the teacher of the year in a secondary school goes to……Luisa Martin-Thomas”. Doeddwn i ddim yn gallu ei gredu, roedd cymeradwyaeth y dorf a chwtch mawr gan fy nheulu wedi gwneud i mi wenu o glust i glust, roedd dagrau balchder gen i wrth weld fy myfyrwyr yn siarad o galon amdana i.

Effaith

Doedd hanner tymor ddim yn gyfle i ymlacio o gwbl. Y diwrnod wedyn, ces i wahodd i ymddangos yn fyw ar sioe radio BBC Jason Mohammad. Wedyn, daeth BBC Wales i’r ysgol am gyfweliad radio arall. Fel siaradwr Cymraeg, ces i gyfweliad gyda Radio Cymru. Roedd papur newydd The Sun wedi fy newis i a’r ysgol i fod yn ei ymgyrch arwyr, ac yn olaf ces i wahoddiad i siarad ar BBC Breakfast ar y soffa coch! Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth! Roedd y penawdau’n mynd yn firaol ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydych yn gwybod eich bod wedi cyrraedd y brig pan gewch chi eich trolio ar Twitter!

Ces i longyfarchiadau mawr gan gymaint o bobl, cyn-fyfyrwyr, rhieni, y Consortiwm a Llywodraeth Cymru. Roedd proffil yr ysgol a RhCT wedi codi. Roedd Coleg Cymunedol Tonypandy ar y map ac yn cael ei ddathlu, yn hytrach na chael ei labelu!

Roedd y myfyrwyr wedi tynnu ‘hunluniau’ gyda’r wobr a chynheliais wasanaethau ‘diolch’. Diolch i’r staff a’r myfyrwyr am eu holl gefnogaeth wrth fy helpu i ennill y wobr.

Mae un peth yn aros yn fy meddwl. Gwelodd rhiant fy stori yn y gymuned leol a daeth ataf. ‘Oh, I saw you on the TV, it was fantastic. I was so emotional, so emotional seeing our Tonypandy on the TV. It’s amazing’, meddai hi, ac mae ei geiriau’n adleisio fy nheimladau. Balchder EIN cyflawniad. Mae’r wobr yn cynrychioli taith ar y cyd a neges glir i’n myfyrwyr!

Mae pobl wedi gofyn beth sy nesaf. Beth wnewch chi nawr? A dw i wedi ymateb ‘dw i’n gwneud y cyfan, a dw i’n manteisio ar bob cyfle sy’n dod!’ Fel dw i’n dweud bob amser, ‘Anelwch am y cwmwl uchaf’ oherwydd y byddwch yn cyrraedd y cwmwl hwnnw un diwrnod, ac mae fy mhrofiad i’n brawf o hynny!

Luisa Martin-Thomas

Luisa Martin-Thomas

Teacher at Tonypandy Community School
Luisa Martin-Thomas

Latest posts by Luisa Martin-Thomas (see all)

(Visited 18 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *