Mae’r Arolygwr yn Galw… Estyn a cPYDd

Fel y gwyddwn, bydd Estyn yn cyflwyno nifer o ddiwygiadau arwyddocaol i’w fframwaith arolygu cyffredin o Fedi 2017. O hyn ymlaen, bydd timoedd yn canolbwyntio ar agweddau mwyaf pwysig addysg a hyfforddiant mewn pump maes allweddol: Safonau; Lles ac agweddau at ddysgu; Profiadau dysgu ac Addysgu; Gofal, cymorth ac arweiniad; ac Arweinyddiaeth a rheolaeth. Tra bod ysgolion yn ceisio ymgyfarwyddo â’r fframwaith newydd, efallai ei bod yn amser priodol i ystyried effaith hyd yn oed dweud y gair ‘Estyn’, enw sy’n codi chwys oer ar brifathrawon sy’n eu hatgoffa o’r profiad diflas o gasglu tystiolaeth. Mae effaith ‘y galwad’ yn taflu bywydau cymdeithasol a, mewn rhai achosion, synnwyr cyffredin allan trwy’r ffenestr. Bydd ysgolion yn paratoi’n orwyllt trwy ailysgrifennu CGYau a AHAau ac yn chwilio am dystiolaeth berthnasol er mwyn bod yn ‘gwbl’ barod ar gyfer yr eiliad mae’r arolygwr cyfeillgar yn galw er mwyn rhoi dyfarniad!

Pa un ai a ydym yn ei gyfaddef yn agored ai peidio, mae ansawdd yr addysg y mae ein plant yn ei chael wedi gwella’n fawr iawn ers i Estyn gael ei sefydlu. Er efallai bod y datganiad hwn yn un cynhennus i’r sawl pennaeth sydd wedi colli cwsg dros y teimlad bod rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd, mae hyn, yn fy marn i, yn wir! Peidiwch â fy nghamddeall, fi yw’r un cyntaf i gydnabod bod llawer o ffactorau eraill wedi cyfrannu at y gwelliant hwn. Ond mae fframwaith Estyn yn parhau i gynnig arweiniad cyson i arweinwyr ysgolion ac athrawon er mwyn iddynt barnu’r safonau. Mae hyn wedi dod yn fwyfwy defnyddiol.

Fel Arweinydd Strategol dros Gau’r Bwlch ar gyfer y rhanbarth hwn, mae sawl agwedd ar y fframwaith drafft a’r effaith gadarnhaol bosibl ar ddeilliannau disgyblion cPYDd yn fy nghalonogi.  Ond bydd hyn yn cyflwyno llawer o heriau a nosweithiau heb gwsg efallai nad ydynt wedi eu hystyried eto. Gadewch i mi esbonio...

 

Safonau

 

Yn y fframwaith newydd, mae’r symudiad i ystyried cynnydd yn ogystal â chyrhaeddiad yn newyddion gwych i’r ysgolion hynny sydd yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig. Fel y gwyddwn, pan fydd y pendil yn siglo o gyrhaeddiad i gyflawniad, bydd yr ysgolion hynny sydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cael mwy o gydnabyddiaeth am y gwerth ychwanegol maent yn ei gyflawni gyda’u plant. Ond mae hyn ynddo’i hun yn cyflwyno heriau newydd. Mae’n golygu bod angen i arweinwyr ysgolion bennu gwaelodlin manwl gywir ar gyfer eu disgyblion ac olrhain grwpiau bregus yn fforensig o un cam i’r nesaf yn ystod eu hamser yn yr ysgol.  Bydd arolygwyr yn arfarnu grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai sydd ag amserlenni gostyngol neu sy’n derbyn addysg oddi ar y safle yn reolaidd. Mae angen i arweinwyr ysgolion sicrhau eu bod wedi adnabod grwpiau penodol o ddisgyblion yn fanwl gywir a’u bod yn gwneud cymaint o gynnydd ag y gallant mewn perthynas â’u man cychwyn yn ôl eu hoedran a’u gallu.

Mae gan ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn anochel sgiliau cyfathrebu sydd yn llai datblygedig.  Ond, bydd arolygwyr yn ystyried i ba raddau mae lefelau sgiliau cyfathrebu ac uwch sgiliau meddwl disgyblion yn cefnogi neu’n rhwystro eu cynnydd wrth ryngweithio yn y dosbarth. Golyga hyn fod yn rhaid i ysgolion ystyried y ffordd y maent yn addysgu llafaredd ac uwch sgiliau meddwl. Bydd strategaethau megis Athroniaeth i Blant bellach yn cael eu cydnabod yn echblyg mewn arolygiadau Estyn – newyddion ffantastig i ddysgwyr cPYDd.

 

Lles ac agweddau at ddysgu

 

Mae Adran 2 o’r fframwaith arolygu cyffredin newydd yn gosod lles wrth wraidd popeth mae ysgolion yn ei wneud. Yn aml mae gan ddisgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim lefelau hunanhyder is, maent yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol ac yn llai gwydn. Mae’r fframwaith arolygu newydd yn datgan y bydd arolygwyr yn edrych ar: “gyfleoedd i [ddisgyblion] ymgymryd â gweithgarwch corfforol, er enghraifft yn ystod gwersi, amser egwyl ac amser cinio a thrwy glybiau a gweithgareddau ar ôl yr ysgol.” Byddant hefyd yn “ystyried pa mor dda y mae pob un o’r disgyblion yn dangos hyder a gwydnwch yn eu bywydau, er enghraifft yn y ffordd y maent yn rhyngweithio â phobl newydd ac oedolion.” Tra ei fod yn anodd tu hwnt mesur a dangos tystiolaeth mewn adroddiad hunanarfarnu ysgol, mae’n amlwg bod Estyn wedi gosod gwydnwch dysgwyr ochr yn ochr â chyflawniad academaidd. Mae hyn yn benderfyniad rwy’n ei groesawu fel Arweinydd Strategol, ond mae hefyd yn her i lawer o ysgolion sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddeilliannau. Rhoddir agweddau disgyblion at ddysgu fel blaenoriaeth uchel hefyd; bydd y ffordd mae ysgolion yn cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, hyderus, medrus ac annibynnol yn heriol.  Golyga hyn fod yn rhaid i ysgolion ystyried yn ofalus sut maent yn datblygu gwydnwch eu dysgwyr ac hefyd sut maent yn dangos tystiolaeth o effaith y gwaith hwn yn effeithiol.

 

Education Endowment Foundation

 

Fel y gwyddwn, mae’r Education Endowment Foundation yn amlinellu tystiolaeth o’r strategaethau sy’n cael effaith anghymesur ar ddisgyblion cPYDd. Dyma rhai strategaethau sydd yn nodweddiadol wrth gau’r bwlch cyflawniad: addysgu sy’n canolbwyntio ar ansawdd; adborth; ymddygiadau hunanreolaeth; metawybyddiaeth ac wrth gwrs, grwpio yn ôl gallu, strategaeth mae Ymddiriedolaeth Sutton yn ei gweld yn cael effaith negyddol ar ddatblygiad dysgwyr. Mae’r strategaethau hyn yn treiddio i fframwaith arolygu cyffredin newydd Estyn. Mae’r arweiniad drafft yn awgrymu y bydd arolygwyr yn ystyried:

  • I ba raddau mae gan athrawon ddisgwyliadau uchel o'r holl ddysgwyr;
  • Y ffordd y mae athrawon yn gwneud gwersi’n symbylol a diddorol lle gall holl grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y mwyaf a’r lleiaf abl, ddysgu’n rhagweithiol;
  • Arfarnu pa mor dda mae adborth llafar ac ysgrifenedig athrawon yn helpu disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn ei wneud
  • Dylai arolygwyr ystyried natur ac maint y dysgu a wneir y tu allan i’r ystafell ddosbarth sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r cwricwlwm a gynlluniwyd;
  • Dylid ystyried y defnydd o strategaethau ymyrryd wrth fentora a hyfforddi grwpiau unigol;
  • Dylai arolygwyr archwilio’r trefniadau ar gyfer grwpio disgyblion trwy setio neu grwpio fesul gallu ac ystyried a yw'r trefniadau’n cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a phrofiadau disgyblion; a
  • Dylai arolygwyr ystyried i ba raddau mae ysgolion yn rhagweithiol wrth helpu datblygu gallu rhieni i gefnogi eu plant eu hun.

Yn gryno, er efallai bod sôn am y gair ‘E’ yn codi chwys oer ar brifathrawon, a’r 15 diwrnod rhwng y galwad a’r arolwg yn achosi 15 o nosweithiau digwsg, pwysig yw cydnabod natur flaengar y fframwaith newydd a’r pwyslais mae Estyn yn ei osod ar gynnydd dysgwyr sy’n agored i niwed, fydd heb os ac oni bai yn herio ysgolion ac yn dyfnhau eu meddwl o ran pa mor effeithiol maent yn cau’r bylchau. Efallai bod dyfodol disglair ar y gorwel lle mae’r arolygwr cyfeillgar yn cael ei groesawu i’r ysgol fel rhan hanfodol o gynllunio gwella ysgolion. Beth rydych chi’n ei feddwl?

Huw Duggan

Huw Duggan

Strategic Adviser for Closing the Gap at Central South Consortium
Huw Duggan
(Visited 52 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *