Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Dyma uchelgais ein Llywodraeth.  Yn amlwg, yn fy marn i, uchelgais arbennig ydyw ond sut yr ydym yn mynd i gyrraedd y filiwn yw’r cwestiwn mawr.  Does dim amheuaeth bod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg a hyn yw ffocws fy mhost.

Mae rôl gan addysg i ymateb i’r uchelgais gan wneud ein gorau glas i gynyddu'r niferoedd o bobl sydd yn siaradwyr a defnyddwyr ein hiaith.  Defnyddwyr yw’r allwedd at lwyddiant hynny yw mai rhaid inni annog disgyblion sydd yn dysgu’r iaith i ddefnyddio’r sgiliau maent yn addysgu ac yn gyntaf mae hyn yn cychwyn gyda gweledigaeth ac ethos ysgol.

Medd Donaldson yn ei ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’,

“Dylai ysgolion ganolbwyntio o’r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall yr iaith lafar.”
Cyfathrebu yw ffocws ein dyfodol, i gyfathrebu yn ein mamiaith, iaith hynaf Ewrop.  Iaith sydd yn agos at Iaith Gernyw, Llydaw a phellach dros y byd.

Wrth ffurfio gweledigaeth eich ysgol, bydd angen rhannu gyda’r rhanddeiliaid pwysigrwydd y Gymraeg yn y Cwricwlwm newydd sydd ar y gweill.

Nid yr iaith yn unig fydd angen sylw ond ein hetifeddiaeth a’n treftadaeth.  Dathlu ein gwlad a’n hiaith,

“Bydd pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn yn cynnwys, lle bo’n briodol, dimensiwn Cymreig yn ogystal â phersbectif rhyngwladol yn unol ag argymhellion yr adolygiad annibynnol o’r Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru.’
Felly a heb oedi credaf fod angen i bob ysgol fel man cychwyn ystyried faint o sylw y maent yn rhoi i Hanes a Threftadaeth ein gwlad.  Wrth wneud hyn bydd sawl cyfle yn codi i wneud defnydd effeithiol o’r Iaith fel rhan o waith ymchwil y dosbarth.

Merthyr oedd y dref fwyaf pwysig yn ystod yr Oes Victoria.  Roedd dociau Caerdydd yn allweddol wrth gludo haearn Merthyr dros y Byd i greu cledrau trenau yn yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a thu hwnt.

“By the 1820s, Merthyr was the source of 40% of Britain's iron exports………Merthyr maintained its supremacy as the world’s number 1 ‘Iron and Steel Town’ until the 1850’s.”
http://www.historic-uk.com/HistoryUK/HistoryofWales/Merthyr-the-Welsh-Men-of-Steel/

Cymraeg oedd iaith y Cymoedd! Pam fy mod yn cyfeirio at yr uchod? Wel, yn ein hanes mae sawl digwyddiad hanesyddol i ddathlu, cofio ac ystyried ac ambell waith wrth ddewis thema o gynllun cyhoeddus nid ydych yn llwyddo i gael blas o’r ardal leol neu gyd-destun Cymru.  Fel man cychwyn ym mis Medi byddaf yn awgrymu i bob ysgol i ystyried astudio’r ardal leol neu hanes Cymru wrth gynllunio am y flwyddyn.

Fel dwedais, Cymraeg oedd iaith y Cymoedd ac o fewn ein 5 Sir, mae potensial anhygoel i wneud defnydd gwell o’r iaith.  I fagu defnyddwyr credaf fod angen rhoi hyder iddynt. Hyder i ddweud bore da, diolch neu groeso. Hyder i ofyn ‘Ga i…..’, hyder i wybod ni fydd pobl yn eich barnu am wneud camgymeriad.  Un o’m hoff ddyfyniadau yw,

“Don’t carry your mistakes with you; place them under your feet, and use them as stepping stones.”
@NataliePalombi sydd yn trydaru’r neges uchod yn rheolaidd.

Dyma ffordd dda wrth gychwyn ar y daith o ddysgu iaith.  Peidiwch ag ystyried y camgymeriadau fel problem ond camau i symud ymlaen.

Wrth gwrs, mae anawsterau yn codi ar hyd y daith ac yn sicr mae newidiadau yn y TGAU Iaith Gyntaf ac Ail Iaith yn esiampl o hyn.  Yr ydym yn y Consortiwm yn ceisio ein gorau i sicrhau bydd ein hybiau yn cynnig rhaglen o gymorth ichi a heb os yr ydym yn bwriadu ffurfio cyfarfodydd rhanbarthol i gefnogi chi ar y daith. Fodd bynnag, un o’r prif anawsterau yw’r nifer o siaradwyr Cymraeg sydd yn y gweithlu gyda’r cymhwyster addas.  Mae hyn yn broblem sydd yn codi yn rheolaidd felly hoffwn wneud cais i unrhyw ddarpar fyfyrwyr, disgyblion y Chweched Dosbarth a siaradwyr Cymraeg yn y byd gwaith, ydych chi wedi ystyried swydd athro?  Yr ydym yn cefnogi rhaglenni mentora ITE, GTP ac yn gweithio gyda ‘Teach First’ ond heb amheuaeth, y nod sydd angen yw denu siaradwyr i’r byd addysg.  Hyn yw un o’m mhrif ffocws yn fy rôl newydd.

Mae ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn cyfeirio at y ‘Continwwm Iaith’ sef i gael gwared â’r syniad o Famiaith neu Ail iaith a ffocysu ar Gymraeg.  Yn sicr bydd angen eglurhad sut bydd hyn yn edrych.  Gallaf ddweud yn hyderus bod ESTYN yn chwilio am ddefnydd yr Iaith Gymraeg tu hwnt i’r dosbarth neu wersi Iaith yn ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Saesneg.  I’r sefydliadau Saesneg, disgwylir clywed defnydd yr iaith ym mhob agwedd o’r Cwricwlwm e.e. Addysg Gorfforol, Hanes ayyb Mae sawl ysgol yn derbyn argymell ar sail defnydd o’r iaith ar draws y cwricwlwm.  Wrth baratoi at y ‘Continwwm’, mae’r Swyddogion Cymraeg mewn Addysg yn dilyn sawl prosiect gydag hyn mewn golwg e.e. plethu sgiliau Cymraeg Ail Iaith gyda’r DCF.

Yn ein hysgolion Cyfrwng Cymraeg, annog defnyddwyr Cymraeg tu hwnt i furiau’r ysgol yw’r nod ac er mwyn cefnogi nhw ar y daith, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r Siarter Iaith fel modd o strwythuro ymgais ysgolion i lwyddo.  Bydd y Consortiwm yn apwyntio Swyddog y Siarter cyn bo hir er mwyn cefnogi ysgolion ar hyd y daith.

Yn wir, bydd rheswm arbennig i ddathlu’r Iaith yn ein hardal erbyn diwedd y mis pan fydd yr Urdd Eisteddfod yn cynnal yr ŵyl Ieuenctid mwyaf yn Ewrop ar ein stepen drws ym Mhencoed. Buaswn yn argymell i bawb i ymuno yn yr hwyl a mwynhau’r cyfle i glywed yr iaith yn fyw yn ein rhanbarth ni.

Oes, mae’na anawsterau ar hyd y ffordd wrth ddatblygu'r nifer o siaradwyr Cymraeg ac y mae angen derbyn hynny fodd bynnag gall bob anhawster cael ei gweld fel cam ymlaen tuag at lwyddo i gyrraedd y filiwn o siaradwyr.  Mae ein hanthem Genedlaethol yn atseinio,

 “O bydded I’r heniaith barhau”

Iaith sydd yn fyw yn ein rhanbarth ydyw ond iaith sydd angen i bob ysgol rhannu’r weledigaeth i roi pob cyfle posib i bob plentyn i wneud defnydd o’r iaith yn ddyddiol.  Cyfle euraidd sydd o’m mlaen gyda ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a nawr yw’r amser i baratoi at y dyfodol gyda brwdfrydedd a dathlu trysor ein cenedl, ein hiaith Gymraeg!

Richard Carbis

Richard Carbis

Welsh Standards and Policy Officer at Central South Consortium
Richard Carbis

Latest posts by Richard Carbis (see all)

(Visited 139 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *