Gorau Chwarae Cyd Chwarae

Bob hyn a hyn, mae cyflawniadau grŵp o chwaraewyr yn swyno ac yn symbylu cenedl gyfan.

Roedd hyn yn wir am gyflawniadau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn ystod ei gyfnod rhagorol yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yr haf diwethaf.

Ond doedd llwyddiant Gareth Bale a’i gydchwaraewyr ddim yn gyd-ddigwyddiad – roedd llawer o flynyddoedd o baratoi wedi mynd i mewn i hyn, ac roedd ond yn bosibl oherwydd ymddiriedaeth ac ymrwymiad gwaelodol pob un chwaraewr ym mhob un chwaraewr arall.

Ni fu slogan marchnata poblogaidd Cymdeithas Pêl-droed Cymru “Gorau Chwarae Cyd Chwarae” mor briodol erioed.

Roedd cryfder y tîm hwn yn uwch o lawer na swm ei rannau unigol.

Yn y cynnwrf mawr yn dilyn cynnydd Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016, awgrymwyd y dylai ysgolion Cymru ddefnyddio’r tîm pêl-droed cenedlaethol fel ysbrydoliaeth wrth geisio gwella eu lefelau perfformiad eu hunain.

Byddai cydweithio, wedi’r cwbl, yn hanfodol i weithrediad llwyddiannus cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru ac ysgolion “arloesi” sy’n bartneriaid.

Mae’r cysyniad o fod yn gryfach gyda’n gilydd yn mynd tu hwnt i ysgolion ac mae hyn yn wir am ein gwasanaethau addysg yn fwy cyffredinol.

Yr her fwyaf yw newid meddylfryd a sicrhau bod addysgwyr o bob math yn credu yn eu gwerth ehangach a’u cyfraniad at y system gyfan.

Dyw ein cyfrifoldeb ni ddim yn stopio wrth gatiau’r ysgol. Mae gennym ni i gyd ddyletswydd i wella cyfleoedd bywyd plant o bob oedran, ym mhob cwr o Gymru.

Pe bai Aaron Ramsey ac Ashley Williams ond yn poeni am eu gyrfaoedd yn eu clybiau unigol, bydden nhw wedi ymddeol o’i ddyletswyddau rhyngwladol ymhell cyn y twrnamaint hwn.

Ond maen nhw’n deall sut beth yw bod yn Gymro ac bod yn rhan o rywbeth llawer mwy nag Arsenal neu Everton.

Fe ddaethon nhw at ei gilydd er budd eu gwlad ac er bu cyfannol tair miliwn o gefnogwyr angerddol.

Fe welon nhw’r darlun ehangach.

Yn yr un modd, mae’n rhaid i ni gydnabod ein dyletswydd ehangach i ddisgyblion sydd tu allan i ffiniau ein sefydliadau ein hunain.

Mae’n her i ni oherwydd y ffurfiau gwahanol o atebolrwydd sy’n ein gosod yn erbyn ein cystadleuwyr mewn ysgolion, colegau a prifysgolion eraill yn uniongyrchol.

Ond allwn ni ddim gadael i fesurau perfformiad dynnu ein sylw o’n cyd-bwrpas moesol, sef addysgu plant a phobl ifanc.

Mae cystadlu heb gydweithredu yn hybu systemau caeedig; mae’n cau drysau stafelloedd dosbarth ac yn mygu arloesedd.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg ei hun wedi siarad yn gadarnhaol am yr angen am bartneriaethau mewn addysg wrth fynd ymlaen.

Dylen ni groesawu ei hymrwymiad i ddatblygu system ysgolion sy’n hunanwella, gyda’r alwedigaeth yn gweithio er eu gwelliant eu hun a gwelliant eraill, a chydnabod yr arfer ragorol sy’n bodoli yng Nghymru yn barod.

Does dim angen i ni boeni am ddod ag athrawon da o rannau eraill o’r DU pan fo’r rhai mwyaf addas i addysgu yng Nghymru yma yn barod.

Mae hi wedi bod yn braf gweld diwylliant newydd o gydweithredu yn dod i’r amlwg.

Mewn rhai achosion, mae’r hen ddull “o’r pen i’r gwaelod” wedi cael ei wrthdroi’n gyfan gwbl, ac mae awdurdodau lleol – a thrwy eu consortia partner – wedi mabwysiadu rôl hwyluso erbyn hyn.

Mae’r amodau sy’n galluogi ysgolion i ryngweithio’n rhydd wedi cael eu sefydlu ac mae penaethiaid wedi dechrau cysylltu â chydweithwyr nad ydyn nhw wedi cwrdd â nhw o’r blaen mewn lleoliadau sy’n filltiroedd i ffwrdd.

Ddylem ni ddim tanbrisio gwerth torri rhwystrau hen sefydledig rhwng gwahanol fathau o ysgolion, ond mae’n gallu llwyddo os ydyn nhw’n fodlon ac mae gwir angen i gefnogi ei gilydd.

Mae llawer o ysgolion, gan gynnwys rhai Consortiwm Canolbarth y De, eisoes yn elwa.

Ond mae angen – ac awydd gwleidyddol – i sicrhau bod y gwaith o rannu’r arfer orau hon yn dod yn fwy systematig ac yn fwy cyffredin.

Rydym eisiau i’r llanw godi pob cwch yn un.

Er mwyn gwneud hyn, mae angen gwir ymrwymiad i fod yn agored a dysgu gan eraill.

Heb feddylfryd chwilfrydig sy’n edrych i’r tu allan, mae perygl y gall ysgolion a staff ddod yn ynysig ac aros yn eu hunfan.

At hynny, heb rywbeth i feincnodi’r ysgol yn ei erbyn, gall fod yn anodd i arweinwyr asesu deilliannau’r ysgol ac ansawdd addysgu a dysgu yn realistig.

Cydweithredu a rhannu arfer orau yw conglfaen system hunanwella; hynny yw system sy’n gweithio i gefnogi ei hun, ac felly’n lleihau’r angen am ymyrraeth gan asiantaethau allanol.

Mae Ms Williams wedi bod yn eiriolwr dros ffedereiddio – sef cydweithredu ar un o’i ffurfiau mwyaf cyflawn – fel dull o ddatblygu modelau llywodraethu ar y cyd a meithrin gallu athrawon.

Ond does dim rheswm pam dylai diffyg clymblaid cadarn atal perthynas ffrwythlon.

Ar ei ffurf symlaf, mae cyd-adeiladu ar bwnc neu thema benodol yn ffordd hwylus i ysgolion ddod i ddeall ei gilydd a symbylu sgwrs gynnar.

Mae’r syniad o barau neu grwpiau ehangach o ysgolion yn cynllunio, datblygu a chyflwyno datrysiadau lleol ar gyfer problemau pwrpasol yn annog meddylfryd twf ac yn magu cyfalaf gymdeithasol ar gyfer sefydlu undebau mwy cadarn.

Mae gweithio mewn amgylchiadau a lleoliadau anghyfarwydd yn gallu creu ymdeimlad o ryddid, ac mae hi’n anghywir meddwl bod cydweithredu llwyddiannus ond yn digwydd rhwng ysgolion ar ddau begwn cyferbyniol y sbectrwm cyflawniad.

Y gwir amdani yw bod ysgolion, ym mhob cam o’u taith wella, yn gallu dysgu rhywbeth drwy gydweithredu.

Cymerodd tîm pêl-droed Cymru amser hir i gyrraedd yr uchelfannau yn Ewrop.

Os ydyn ni’n cyd-dynnu, mae pob siawns y bydd system addysg Cymru yn cyrraedd y nod yn gyflymach o lawer.

Gareth Evans

Gareth Evans

Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg
Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gareth Evans

Latest posts by Gareth Evans (see all)

(Visited 29 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *