Beth yn union yw system ysgolion hunanwella? A beth yw’r goblygiadau i ni i gyd?

Roedd hi’n braf gweld yn adroddiad Prif Arolygydd Ei Mawrhydi fod Meilyr Rowlands wedi ysgrifennu: ‘Yn yr ychydig ysgolion gorau oll, ceir ffocws cryf ar ddysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff. Mae athrawon ac arweinwyr ar draws yr ysgolion yn gysylltiedig ag ystod eang o rwydweithiau arfer broffesiynol o fewn yr ysgol ac ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol’

Dw i’n meddwl ei fod yn sôn am ysgolion sy’n hunanwella...

Mae astudiaeth McKinsey o systemau addysg gorau’r byd yn dod i’r casgliad bod ganddynt i gyd elfennau o’r hyn rydym yn ei alw’n ‘system hunanwella.’ Mae’r term hwn wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru ers sbel. Ydym ni i gyd yn gwybod beth mae’n ei olygu? Dw i’n meddwl ein bod yn golygu pethau cwbl wahanol weithiau...

Os ydym am wireddu’r weledigaeth hon – ac mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai dyma’r UIG ffordd o gynnal gwelliant ar draws pob ysgol - mae angen i ni i gyd fod yn glir am y cynllun.

Yn wir, a defnyddio trosiad cyffredin – mae angen i ni i gyd fod yn yr un cwch, yn rhwyfo yn yr un cyfeiriad ac ar yr un cyflymder...

Dw i’n mynd i fentro mynegi rhai rhagdybiaethau...

  1. Ysgolion yw’r lleoedd mae disgyblion yn mynd i ddysgu. (Sut rydym yn mesur hynny yw testun Blog cwbl wahanol!)
  2. Y peth mwyaf effeithiol gall ysgol ei wneud er mwyn gwella ansawdd dysgu gan ddisgyblion yw sicrhau bod ganddi’r athrawon gorau a pharhau i’w datblygu
  3. Mae athrawon yn dysgu orau gan athrawon eraill trwy arsylwi a siarad am addysg, ac nid o gyrsiau, llyfrau na’r rhyngrwyd hyd yn oed

Felly, i mi o leiaf, mae ysgol sy’n hunanwella yn un sy’n canolbwyntio ar sut mae athrawon yn dysgu o’i gilydd. Bydd yr ysgol yn clustnodi lle a sut gall hyn ddigwydd yn ôl anghenion yr ysgol a’i hathrawon. Bydd yr ysgol yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer gwella ac adolygu cynnydd trwy ddefnyddio mesurau clir ac effeithiol sy’n cael eu cydnabod ac sydd ar gael ar draws y system gyfan.

Mae atebolrwydd – o fath iach, strategol a thryloyw – yn allweddol.

Dyma sut yr ymdrinnir ag amrywiad ysgolion, sef yr hyn sy'n peryglu gwella ysgolion. Dylai adrannau neu athrawon ar draws ysgol weithio ynghyd i wella cysondeb a dysgu gyda'i gilydd.

Mae system ysgolion sy’n hunanwella yn un lle mae’r holl ysgolion yn gwneud hyn, o fewn yr ysgol ac ar draws ysgolion hefyd. Yn fwy na hyn, mae’r holl ysgolion yn gofalu am sut mae ysgolion yn dysgu ac effaith hynny ar eu plant.

Dyma le mae ysgolion yn clustnodi’r hyn maen nhw am ei wella, ac adnabod sut gall eu hathrawon weithio gydag athrawon mewn ysgolion eraill i ddysgu, ac i ddod â’r wybodaeth honno yn ôl i’r ysgol.

Mae gennym nifer o fodelau y gall ysgolion eu defnyddio yng Nghanolbarth y De i weithio gydag ysgolion eraill, a dylai ysgolion ddewis y rhai sy’n gweithio orau yn ôl eu hamgylchiadau unigol. Pa un ai a yw hyn yn digwydd trwy GGY, clwstwr, cymuned dysgu proffesiynol, cynllun braenaru, hwb, ymholiad cymheiriaid neu rywbeth arall – mae hi’n wirioneddol bwysig. Mae angen i’r ysgol glustnodi’r model cywir sy’n cyd-fynd â’i hanghenion.

Ac wrth gwrs, fel rhan o hyn gall arweinwyr ddysgu gan arweinwyr eraill, gall arweinwyr canol ddysgu gan arweinwyr canol eraill, fel bod rhywun sy’n gwneud yr un gwaith mewn ysgol wahanol yn cael rhoi persbectif personol, cynnig cyngor a chefnogaeth mewn ffyrdd sy’n fuddiol i’r ddau barti. Gall athrawon arwain prosiectau i gydweithio gydag athrawon eraill, sy’n golygu bod ganddynt gyfle i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth - a datblygu arweinwyr y dyfodol.

Mae penaethiaid profiadol sydd wedi rheoli mwy nag un ysgol yn gallu cefnogi ysgolion eraill, naill ai’n ffurfiol trwy ffederasiwn neu uniad, neu’n anffurfiol trwy rôl ‘arweinyddiaeth ymgynghorol’. Mae hyn yn golygu eu bod nid yn unig yn defnyddio eu profiad eu hun ond maen nhw hefyd yn dysgu ac yn datblygu o hyd.

Eto, geiriau defnyddiol gan Estyn: ‘Yr her i’n hysgolion mwyaf llwyddiannus yw sicrhau bod eu prosesau cynllunio olyniaeth yn ddigon cadarn i ddatblygu’u gallu arweinyddol, fel y gall uwch arweinwyr gyfrannu at gymorth rhwng ysgolion heb beryglu’u darpariaeth a’u datblygiad eu hunain.’ Mewn geiriau eraill, yn yr ysgolion gorau maen nhw’n cynllunio dda ar gyfer y gwaith hwn, gan ddatblygu pobl heb amharu ar yr ysgol.

Mae goblygiadau i gonsortia, awdurdodau ac eraill sy’n gweithio gydag ysgolion. Rwy’n gwybod ein bod yn glir yn y rhanbarth hwn: ni all systemau hunanwella gael eu harwain gan awdurdodau a chonsortia! Mae’n rhaid i ni gamu’n ôl a gadael i hyn ddigwydd, peidio â dweud wrth ysgolion da beth i’w wneud – eu gwaith nhw yw hynny! Rydym yn rhannu gwybodaeth am berfformiad ac arfer effeithiol. Rydym yn cynllunio ac ariannu ysgolion yn deg a darparu mynediad i wasanaethau ansawdd dda sy’n cefnogi ysgolion. Mae angen i ni gamu i mewn os yw ysgolion yn cael eu diystyru neu’n agored i niwed, ond fel arall mae angen i atebolrwydd ac arweinyddiaeth ysgolion hunanwella aros gyda’r ysgol ei hun.

I mi, mae yna reswm pam mae holl systemau ysgol gorau’r byd yn defnyddio’r model hwn. Dyma fodel sy’n buddsoddi mewn athrawon ac yn gosod dysgu wrth wraidd popeth a wnaiff, a hynny i’r plant a’r athrawon fel ei gilydd.

Dw i’n credu bod cyfle yng Nghymru i ddangos sut gellir gwneud hyn, mewn modd sydd heb ei gyflwyno’n effeithiol yn y DU hyd yma. Ond eto, mae angen i ni fod yn yr un cwch yn hwyfo yn yr un cyfeiriad...

(Visited 29 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *