Gwella Ysgolion yng Nghanol De Cymru: Ansawdd ac Effeithiolrwydd

Mae ceisiadau’n cau ar gyfer swydd Rheolwr Gyfarwyddwr Consortiwm Canolbarth y De yr wythnos hon, a dw i wir yn gobeithio y bydd detholiad o ymgeiswyr rhagorol yn dod i law er mwyn llywio gwaith y sefydliad unigryw hwn ar gyfer y dyfodol. Dw i wedi mwynhau’r swydd hon yn fawr iawn yn ystod fy nghyfnod i yma a’r holl amrywiaeth. Er enghraifft, yr wythnos hon byddaf yn treulio dydd Llun gyda’r tîm yn y swyddfa yn trafod ein diwygiadau i’r model hybiau wrth fynd ymlaen, siarad am addysgu a dysgu yn y sector uwchradd gyda phenaethiaid uwchradd a Llywodraeth Cymru, ymgymryd ag adolygiad cynnydd am effaith ein gwaith gydag ysgolion ym Mro Morgannwg a Merthyr Tudful, cwrdd â’r pum Cyfarwyddwr Addysg ynglŷn â’n cynllun busnes newydd a gweithio gyda grŵp cysylltiol o benaethiaid i adolygu cynnydd ar ein modelau gwella ysgol i ysgol.

Ond yn ôl i’r hybiau am y tro. Y nod yw buddsoddi mewn nifer bach o ysgolion effeithiol i greu capasiti i athrawon weithio ar draws y rhanbarth, gan ddatblygu sgiliau athrawon ym mhob ysgol. Mae darpariaeth hwb yn cwmpasu amrywiaeth o bethau – ymchwil gweithredu, datblygu arweinyddiaeth, DPP, ac mae rhaglenni tridiau yn disodli cyrsiau undydd yn fwyfwy er mwyn i athrawon ymarfer yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu ar lawr y dosbarth. Mae’r model cydweithredu hybiau yn ein rhanbarth wedi disodli ein darpariaeth ganolog yn gyfan gwbl – mae’r ein holl DPP i athrawon yn cael ei ddarparu gan athrawon yn y rhanbarth hwn.

Bu llawer o sŵn yn y cyfryngau yn ystod hanner tymor am ansawdd ac effeithiolrwydd darpariaeth DPP i athrawon, a ddaeth yn sgil adolygiad yn Lloegr am ddargadwad athrawon. Yna, roedd cyhoeddiad gan Y Pwyllgor Dethol dros Blant a Phobl Ifanc ynglŷn â’r defnydd o’r Grant Gwella Addysg i wella safonau. Roedd eu hadroddiad yn datgan nad oedd gafael digon tynn ar y grant gan y llywodraeth.

Mae’n debyg eu bod yn iawn am y ffaith ei bod hi’n anodd i’r llywodraeth fonitro effaith darpariaeth grant ar ddeilliannau. Yn draddodiadol, bu’n rhaid wrth bentyrrau o waith bapur a llenwi ffurflenni er mwyn gwneud hyn – a dyw hynny ddim yn helpu i recriwtio a chadw staff chwaith! Ond mae atebolrwydd yn gwbl hanfodol, ac yn y rhanbarth hwn rydym yn dirprwyo 94% o’r GGA i ysgolion, ac felly rôl ysgolion yw darparu tystiolaeth am effaith hynny a’u holl adnoddau ar ddeilliannau. Yn hytrach na gwneud hynny mewn cynlluniau ar wahân ar gyfer pob un grant, mae ysgolion yn gwneud hyn trwy eu cynllunio gwella ysgol mewn modd clir ac effeithiol y gall staff, rhieni a llywodraethwyr i gyd ei ddeall.

Rydym wedi gweld mwy na 1000 o athrawon yn cymryd rhan mewn rhaglenni hwb yn nhymor yr hydref, ac mae’r niferoedd yn fawr iawn yn ystod dwy flynedd o gynnal y GGYau a chydweithrediad gan yr ysgolion hwb. Gan edrych ymlaen, rydym yn ystyried ei gwneud yn bosibl i’r hybiau weithio gyda phob ysgol am ddim. Ond y prif fater yw sut mae ysgolion yn adolygu effaith y ddarpariaeth honno, a defnyddio’r wybodaeth sydd wedi ei rhannu, a’i gwreiddio fel rhan o’u rhaglenni datblygu ysgol ac ystyried sut i elwa ar y cyfleoedd dysgu a datblygu niferus ar draws y rhanbarth er budd pob athro.

Yn anffodus, does dim adnoddau diddiwedd ar gael (mae’r 6% sy’n cael ei gadw’n ôl yn ariannu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAG), cydweithredu gan y GGY, rhaglenni arweinyddiaeth a ariennir a’n timau strategol canolog bach), ac mae’r Pwyllgor Dethol yn iawn i ddweud bod angen i ni i gyd – boed yn ysgolion, consortia neu lywodraeth – sicrhau ein bod yn defnyddio pob ceiniog i wella darpariaeth ac effaith er mwyn sicrhau bod ein holl athrawon yn elwa.

(Visited 28 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *