Diwygio Llywodraethu mewn Ysgolion yng Nghymru: Barn Llywodraethwr

Mae’r ymgynghoriad diweddar gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â diwygio llywodraethu mewn ysgolion yng Nghymru wedi bod yn rhyfeddol o ddiddorol, o ystyried bod y testun hwn yn cael ei weld braidd yn sych yn aml.

Nid wyf am draethu am anymarferoldeb disgwyl ymatebion cydlynol i wyth deg chwech o gwestiynau am addasiad darniog tra chymhleth o ddeddfwriaeth bresennol. Dychmygaf fod llawer o ymatebion llawn angerdd wedi dod i law. Rydw i ond yn falch nad oes gen i’r gorchwyl anodd o geisio gwneud synnwyr ohonynt, ac yna cyflwyno argymhellion o ran sut i fynd ati.

Mae’r amryw o drafodaethau rydw i wedi bod yn rhan ohonynt wedi bod yn ddiddorol iawn: ar lefel ysgol, awdurdod lleol a chonsortiwm, ac mae rhannau o’r newidiadau arfaethedig wedi cynhyrfu. Mae gan rai pobl farn gref iawn am sut dylai ysgolion gael eu llywodraethu ac yn gallu traethu’n huawdl ar y mater.

Dylai aelodaeth Cyrff Llywodraethu fod yn seiliedig ar sgiliau – dyna’r syniad sylfaenol. Yn anffodus, mae’r ddogfen ymgynghorol yn amwys am y sgiliau penodol sydd ganddi mewn golwg. Wrth drafod y peth â swyddogion, ymddengys fod y gair “sgiliau” wedi cael ei ddewis i gwmpasu sawl priodoledd arall, sef profiad, cymwysterau a’r hyn sy’n cael ei alw’n “sgiliau meddal” erbyn hyn - a oedd yn arfer cael ei alw’n synnwyr cyffredin a’r gallu i gyd-dynnu. Maen nhw hefyd yn siarad am brofiad busnes neu arbenigedd adnoddau dynol neu gyfreithiol penodol. Wedi’r cwbl, gellir ystyried ysgolion yn fusnesau sy’n gweithredu o fewn cyllidebau cyfyngedig. Maen nhw’n wynebu’r un ystyriaethau o ran trin gweithwyr yn deg ac osgoi gwastraffu arian. Er hyn, rydw i ychydig yn wyliadwrus ynglŷn â hyn o beth gan bod pob Corff Llywodraethu eisoes yn gallu galw ar gyngor proffesiynol cyfreithwyr, arbenigwyr Adnoddau Dynol ac eiddo yn yr awdurdod lleol, yn ogystal ag ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch. Sgil hanfodol efallai yw deall eich cyfyngiadau a deall hefyd pryd mae angen galw ar yr arbenigwyr.

Mae ymdeimlad bod Cyrff Llywodraeth yn gallu bod yn rhy fawr ac yn anhydrin, gyda’r gwaith o lywodraethu yn cael ei ddirprwyo i gnewyllyn mewnol bychan sy’n cyfarwyddo’r lleill. Gallaf gydymdeimlo â hyn o beth. Tyfodd ysgol uwchradd lle bûm yn Llywodraethwr a chynyddodd nifer yr aelodau o 16 i fwy nag 20. Roedd gostyngiad nodedig o ran lefelau ymrwymiad a chyfranogiad. Gyda mwy o bobl, roedd llai o waith i unigolion ac roedd hi’n llai pwysig mynychu cyfarfodydd pwyllgor oherwydd ei bod yn haws sicrhau cworwm. Roeddwn yn tybio bod elfen seicolegol ar waith hefyd. Gyda chynifer o bobl, roedd barn pob Llywodraethwr o’i werth ei hun yn llai rywsut.

Mae cwtogi’r niferoedd yn arwain at gwtogi nifer y Llywodraethwyr etholedig o blith rhieni a staff yr ysgol. Mae’n debyg bod hynny oherwydd diffyg hyder y bydd y broses ddemocrataidd yn cynhyrchu Llywodraethwyr sydd â’r sgiliau angenrheidiol, a’r perygl na fydd rhieni Llywodraethwyr yn gweld tu hwnt i anghenion eu plant eu hun, a bydd y staff Llywodraethwyr yn cefnogi’r Pennaeth bob amser. O’m profiad i, ni fu’r naill na’r llall yn wir yn ystod tri deg mlynedd yn y maes, ond efallai fy mod i wedi bod yn lwcus.

Edrychaf ymlaen at ddarllen y ddogfen derfynol o beiriant selsig Llywodraeth Cymru yn yr haf. Alla i ddim aros i weld y rysáit newydd.

Martin Price

Martin Price

Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn yn Y Barri, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Y Fro, a Chadeirydd Grŵp Llywio Llywodraethwyr Consortiwm Canolbarth y De
Martin Price
(Visited 74 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *