Adroddiad Blynyddol Estyn: Edrych y tu ôl i’r penawdau… a chael adlewyrchiad cywir

Mae Adroddiad Blynyddol Estyn yn cynnwys negeseuon pwysig ar gyfer pawb sy'n gweithio mewn ysgolion ac ym maes gwella ysgolion. Fodd bynnag, mae angen chwilio trwy'r adroddiad i gael hyd i'r negeseuon pwysig, cytbwys sydd ynddo.

Mae'r penawdau a welwyd yn y cyfryngau yr wythnos diwethaf wedi rhoi argraff sy'n anghyflawn, ac weithiau'n gamarweiniol, o'r cryfderau pwysig a'r meysydd i'w gwella yn ein hysgolion.

Yn yr adroddiad, ceir negeseuon pwysig am yr arfer gorau a mwyaf effeithiol, ynghyd ag astudiaethau achos i gefnogi hynny. Wrth i ni feithrin system hunanwella, bydd hyn yn allweddol i arwain y rheiny y mae arnynt angen y gefnogaeth fwyaf i wella.

“Y dylanwad mwyaf ar ddeilliannau dysgwyr yw ansawdd yr addysgu a’r dysgu. Cyflwynwyd strategaethau amrywiol yng Nghymru gyda’r bwriad o wella ansawdd addysgu a dysgu, a helpu ymarferwyr i ddatblygu eu harfer trwy gydol eu gyrfaoedd. Y nod yw meithrin gallu a dileu amrywiadau o fewn ysgolion a rhyngddynt. Mae diwygiadau presennol mewn addysg wedi’u seilio ar fodel o system hunanwella ac o weithio o ysgol i ysgol. Mae hyn yn golygu bod ysgolion a darparwyr, arweinwyr ac ymarferwyr, gan gynnwys athrawon a staff cymorth, yn cymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain a datblygiad eu cymheiriaid. Caiff y dull hunanwella hwn ei arwain gan yr ysgol, a’i gydbwyso gyda chymorth gan awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.”

Yn ogystal, mae rhai o'r meysydd a nodwyd wedi cael eu hamlygu, a fydd yn bwysig i bob un ohonom sy'n gweithio mewn ysgolion ac ym maes gwella ysgolion, i'w gwella a'u cryfhau.

Mae'r rhain yn cynnwys:

“Ceir mwy o arfer ragorol ac arfer anfoddhaol yn y sector uwchradd nag mewn ysgolion cynradd. Nid yw’r amrywio cynyddol hwn wrth i blant fynd yn hŷn yn digwydd mewn deilliannau arolygu yn unig. Er enghraifft, mae’r bwlch rhwng perfformiad merched a bechgyn a’r bwlch rhwng perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion yn ehangu hefyd wrth i ddisgyblion symud ymlaen o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Gall cael un athro ar gyfer pob dosbarth am y flwyddyn olygu ei bod yn haws i ysgolion cynradd sefydlu dull cyson o addysgu a dysgu, ac i fynd i’r afael ag anghenion pob plentyn fel unigolyn. Mae’r ffaith fod ysgolion uwchradd yn fwy, a’r natur adrannol a geir ynddynt, yn gwneud hyn yn anos i’w gyflawni.”

“Ceir ethos cynhwysol mewn llawer o ysgolion ac mae staff yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfleoedd i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Mae’r ysgolion hyn yn hyrwyddo goddefgarwch a pharch.”

“Nid yw consortia rhanbarthol yn dadansoddi cynnydd grwpiau o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy abl, yn ddigon manwl. Mae rhai darparwyr sy’n bodloni anghenion disgyblon mwy abl yn dda yn defnyddio TGCh i ddarparu her addas i’r disgyblion hyn ddysgu drwy wneud, a derbyn adborth uniongyrchol.”

 

Mae yna ffocws ar yr ysgolion hynny sy'n peri pryder, nad ydynt yn gwella mor gyflym ag y dymunir; fodd bynnag, mae yna neges glir fod yna lai o'r rhain.

“Eleni, fe wnaeth cyfran yr ysgolion cynradd yr oedd angen ymyrraeth statudol arnynt leihau o gymharu â’r llynedd. Rhoddodd arolygwyr saith o ysgolion cynradd (4%) mewn categori statudol yn dilyn eu harolygiad craidd eleni. Mae hwn yn ostyngiad ar yr 20 o ysgolion (9%) a nodwyd y llynedd. Mae angen gweithredu mesurau arbennig mewn tair ysgol (2%), o gymharu ag wyth ysgol (4%) y llynedd. Mae angen gwelliant sylweddol ar bedair ysgol (2%), o gymharu â 12 ysgol (5%) y llynedd.”

“Yn ystod y flwyddyn hon, bu gwelliant yn y rhan fwyaf o’r ysgolion a roddwyd yn y categori monitro gan Estyn y llynedd ac nid oes angen eu monitro ymhellach gan arolygwyr. Fodd bynnag, ni wnaeth ychydig o ysgolion ddigon o gynnydd, ac mae angen gwelliant sylweddol arnynt erbyn hyn. Yn yr ysgolion hyn, mae gwelliannau yn ansawdd yr addysgu a chywirdeb asesiadau athrawon wedi bod yn rhy araf, gan arwain at ddirywiad yn safonau disgyblion. Yn ystod y flwyddyn hon, cafodd y rhan fwyaf o ysgolion a roddwyd yn y categori gwelliant sylweddol y llynedd eu tynnu o’r categori monitro pellach. Roedd angen ail ymweliad monitro ar ychydig iawn o ysgolion i wneud yn siŵr bod gwelliannau diweddar wedi’u hymgorffori. Eleni, cafodd tua hanner yr ysgolion cynradd yr oedd angen gweithredu mesurau arbennig ynddynt y llynedd eu tynnu o weithgarwch monitro pellach. Yn yr ysgolion hyn, mae gwelliannau wedi’u gwneud yn gyflym. Mewn ychydig o ysgolion sy’n parhau yn y categori mesurau arbennig, mae ad-drefnu parhaus neu gynigion i gau yn ei gwneud yn anodd i’r ysgol ddenu’r athrawon a’r arweinwyr iawn i wella ansawdd y ddarpariaeth.”

At hynny, mae'r Adroddiad Blynyddol yn dweud wrthym am welliannau a welwyd gan yr arolygwyr eleni, ac am ddatblygiadau a fydd yn ein helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau sylweddol yn y cwricwlwm, y cymwysterau, a'r safonau newydd ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgolion.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Eleni, nodom fod arfer ragorol mewn 40 o ysgolion cynradd ar gyfer o leiaf un dangosydd ansawdd. Mae hyn yn cyfrif am 22% o’r ysgolion a arolygwyd, o gymharu ag 18% y llynedd, ac mae’n parhau tuedd o wella lle bernir bod rhywfaint o arfer ragorol mewn ysgolion. Fe wnaethom farnu bod chwe ysgol yn rhagorol at ei gilydd, ar gyfer eu perfformiad cyfredol a’u rhagolygon gwella, sy’n ddwy ysgol yn fwy na nodom y llynedd.”

“Un cryfder allweddol yn y rhan fwyaf o ysgolion arbennig, llawer o ysgolion cynradd, a thua hanner yr ysgolion uwchradd, yw’r ystod eang o weithgareddau dysgu proffesiynol maen nhw’n ymgymryd â nhw.”

“Hefyd, mae diwylliant o gydweithredu a chymorth mewn perthynas â dysgu proffesiynol yn datblygu, er bod consortia rhanbarthol wedi mabwysiadu dulliau gwahanol o waith rhwng ysgolion ac nid ydynt wedi arfarnu effeithiolrwydd y modelau amrywiol hyn. Yn gyffredin, mae consortia rhanbarthol yn defnyddio gwybodaeth eu hymgynghorwyr her ynglŷn â ble ceir arfer dda yn y rhanbarth er mwyn brocera cymorth rhwng ysgolion. Yr her i’n hysgolion mwyaf llwyddiannus yw sicrhau bod eu prosesau cynllunio olyniaeth yn ddigon cadarn i ddatblygu’u gallu arweinyddol, fel y gall uwch arweinwyr gyfrannu at gymorth rhwng ysgolion heb beryglu’u darpariaeth a’u datblygiad eu hunain.”

“Yn gynyddol, mae ysgolion yn manteisio ar y cyfleoedd dysgu proffesiynol y mae consortia rhanbarthol yn eu darparu i ddefnyddio arfer yn seiliedig ar dystiolaeth, yn enwedig ar gyfer llythrennedd, rhifedd, a chodi cyflawniad disgyblion difreintiedig. Mae un enghraifft yn ymwneud â hwyluso hyfforddiant, yn seiliedig ar ymchwil seicoleg addysgol, ar fodloni anghenion llythrennedd emosiynol disgyblion. Mae’r hyfforddiant yn helpu staff i gael dealltwriaeth well o destunau fel meithrin hunan-barch disgyblion drwy ryngweithio cymdeithasol cadarnhaol. Mae staff yn cymhwyso’r wybodaeth hon i gyfeirio a phersonoli ymyriadau i fodloni anghenion eu disgyblion, yn enwedig y rheini sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.”

“Yn yr ychydig ysgolion gorau oll, ceir ffocws cryf ar ddysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff. Mae athrawon ac arweinwyr ar draws yr ysgolion yn gysylltiedig ag ystod eang o rwydweithiau arfer broffesiynol o fewn yr ysgol ac ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.”

“Mae’r consortia yn datblygu strategaethau mwy effeithiol ar gyfer herio, cynorthwyo a monitro ysgolion sy’n peri pryder. Er bod consortia fel arfer yn darparu gwybodaeth gadarn i awdurdodau lleol am ysgolion sy’n peri pryder, nid yw awdurdodau lleol bob amser yn gweithredu ar y wybodaeth hon drwy ddefnyddio’u pwerau ymyrryd. Mae hyn yn cyfyngu i ba raddau y gall y consortia helpu ysgolion i wella. Hefyd, lle mae gwasanaethau addysg awdurdodau lleol fel ad-drefnu ysgolion neu adnoddau dynol yn aneffeithiol, gall hyn rwystro cynnydd ysgol, hyd yn oed os yw’r consortiwm yn darparu gwasanaeth gwella ysgolion da.”

“Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw saith o bob deg o ysgolion cynradd a arolygwyd eleni. Mae hyn yn adeiladu ar y gwelliant a welwyd y llynedd. Mae cyfran yr ysgolion y barnodd arolygwyr eu bod yn rhagorol neu’n anfoddhaol wedi aros yr un fath fwy neu lai. Lle ceir safonau da neu well, mae’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched, a rhwng disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac eraill, yn lleihau. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd da. Mewn rhyw draean o ysgolion, nid yw disgyblion mwy abl yn gwneud digon o gynnydd am nad yw’r gwaith a osodir iddynt yn ddigon heriol.”

Mewn ysgolion cynradd, “Eleni, mae’r addysgu ac asesu wedi gwella, gydag ychydig dros saith o bob deg ysgol yn dda neu’n well. Eleni, fe wnaeth cyfran yr ysgolion cynradd ag arweinyddiaeth dda neu ragorol gynyddu ychydig i 72%, tra bod y gyfran ag arweinyddiaeth anfoddhaol wedi lleihau i 3% o 7% y llynedd.”

Mewn ysgolion uwchradd, “Mewn llawer o ysgolion, mae presenoldeb yn gwella ac mae cyfraddau absenoldeb parhaus yn parhau i ostwng, gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn mynychu’n dda ac yn deall pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd. At ei gilydd, mae’r amrywiad mewn presenoldeb rhwng ysgolion wedi lleihau, ac mae llawer o ysgolion wedi ymateb yn dda i’r her i wella cyfraddau presenoldeb.”

“Mae darpariaeth yn dda neu’n well mewn llawer o ysgolion uwchradd a arolygwyd eleni. Mae hyn yn welliant ar y llynedd, yn bennaf oherwydd gwelliannau mewn gofal, cymorth ac arweiniad. Fodd bynnag, mae diffygion yn y ddarpariaeth o hyd ar gyfer datblygu medrau ac yn ansawdd yr addysgu a’r asesu.”

       

Mae'r darlun cytbwys a gyflwynir yn yr Adroddiad Blynyddol yn ein herio'n briodol i leihau'r amrywiad a welir mewn ysgolion ledled Cymru. Dylem weithio gyda'n gilydd ar draws adrannau, ysgolion, ALlau, rhanbarthau a'r llywodraeth, er mwyn sicrhau'r system hunanwella y cyfeirir ati yn yr adroddiad.

Yr amrywiad o ran deilliannau dysgwyr, yn enwedig y rheiny sy'n cael prydau ysgol am ddim, neu'r rhai mwy abl a thalentog.

Mae'r amrywiad yn rhy fawr rhwng ein hysgolion gorau a'r rheiny nad ydynt yn gwella ar y cyflymder gofynnol.

Mae'r amrywiad yn rhy fawr rhwng yr athrawon hynny sy'n darparu gwersi ysbrydoledig o ansawdd uchel i'r disgyblion, a'r rheiny nad ydynt yn tanio brwdfrydedd y disgyblion i gyflawni eu potensial.

Mae'r amrywiad o ran effaith ac ansawdd y gefnogaeth a roddir i ysgolion gan gonsortia rhanbarthol yn effeithio ar gyflymder y broses o wella.

Mae'r amrywiad rhwng awdurdodau lleol effeithlon, effeithiol, a'r rheiny sydd wedi'u trefnu'n wael, hefyd yn arwyddocaol, yn enwedig o ran defnyddio pwerau perthnasol, trefniant ysgolion, presenoldeb, a chefnogaeth ar gyfer ADY.

Wrth i ni gychwyn ar y cyfnod hwn o newid sylweddol mewn ysgolion, bydd galw ar y system hunanwella sy'n datblygu i leihau'r amrywiad hwn. Bydd hyn yn gofyn am gydweithredu pellach ac, mewn rhai sefydliadau, am newid angenrheidiol yn y diwylliant. Mae'r rhanbarthau wedi ymrwymo i'r ymdrech hon, a bydd archwiliad perthnasol a theg o Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd yn rhan o'r broses hon.

 
(Visited 41 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *