Arweinwyr ysgolion – a sut maen nhw’n dweud wrthych chi (mewn ffordd neis) y gallech wneud yn well

Rwy’n dathlu deuddegfed mlwyddiant y mis hwn ers i mi ddechrau gweithio gyda phenaethiaid yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2014, ces i fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon (NAHT Cymru). Gyda pheth anesmwythder, camais i mewn i’r hen adfail o adeilad yn Sgŵar Mount Stuart yng Nghaerdydd a fu’n bencadlys NAHT ar y diwrnod cyntaf hwnnw. Mae’n teimlo fel oes yn ôl erbyn hyn. Roedd yr hinsawdd addysg yn wahanol iawn ar y pryd yn sicr – dim ond pum mlynedd ers datganoli, ychydig iawn o bwerau oedd gan y Cynulliad, a threuliasom ran helaeth o’n hamser yn dadlau cymhlethdodau’r ‘Barnett consequential’ a oedd yn pennu faint o gyllid fyddai’n dod at ein hysgolion, ysgrifennu datganiadau di-ben-draw i’r wasg ynglŷn â’r ‘niwl cyllido’ chwedlonol, a fforio goblygiadau deddfwriaeth uwchradd. Un peth sydd heb newid yw sut mae’n teimlo i weithio gyda phenaethiaid. Cwblheais ddarn o waith ar y diwrnod cyntaf hwnnw (ac roedd hwnnw ynglŷn â chyllido o bob peth!) a’i anfon at swyddogion gweithredol Cymru (aelodau arweiniol NAHT yng Nghymru). Arhosais, yn nerfus, am eu hymateb. Yr ymateb ges i oedd: ‘Da iawn. Dechreuad da! Daliwch ati.’ Roeddwn wrth fy modd – a theimlwn ar yr un pryd fel pe bawn i nôl yn yr ysgol. Yn y rhan fwyaf o swyddi, mae rhoi cynnig rhesymol ar rywbeth yn rhywbeth rydych yn ei ddisgwyl, sy ddim wir werth sôn amdano. Nid felly gyda phenaethiaid; maen nhw’n eich canmol – ac yna y tro nesaf yn dweud: ‘Efallai gallech wneud y pwynt hwn y tro nesaf’ neu ‘beth am fynnu sgwrs â hwn a’r llall, maen nhw’n wych gyda hyn o beth’ neu ‘mae model da gan awdurdod lleol x ar gyfer hyn’. Gwnaeth rhywbeth fy atgoffa heddiw o’r wers gynnar honno am wneud rhywbeth yn well y tro nesaf wrth dreulio’r diwrnod yn gwrando ar benaethiaid yn cynllunio camau nesaf eu gwelliant ysgol, a gwella’r system yn gyffredinol. Ar y diwrnod cyntaf hwnnw, y bobl y gofynnwyd i mi siarad â nhw oedd cysylltiadau anffurfiol aelodau gweithredol Cymru NAHT, sef pobl roedden nhw wedi digwydd cwrdd â nhw mewn cynadleddau neu wedi gweithio â nhw ar ryw adeg ar hyd y ffordd, sef rhwydweithio anffurfiol a phenderfynol sy’n seiliedig ar ewyllys da. Heb y cysylltiadau hyn, roedd hi’n anodd gwybod lle i fynd i gael cyngor, lle roedd yr arfer dda, pwy allai (a phwy fyddai’n) eich helpu i wneud yn well. Mae’r rhwydweithiau anffurfiol hyn yn dal i fodoli ond roedd y sgwrs heddiw yn ymwneud yn fwy â defnyddio’r modelau ffurfiol a ariennir sydd yn eu lle erbyn hyn er mwyn gwneud y rhannu yma yn bosib. Mae’r rhain yn cael eu cefnogi’n gynyddol gan ymchwil a data cadarn. Llawer iawn mwy o leoedd, llawer iawn mwy o bobl, a chysylltiadau cryfach o lawer. Rwy’n meddwl bod hyn yn ddatblygiad hynod o werthfawr – ac yn golygu bod modd gwella unrhyw ymdrech unigol drwy ymgysylltu ag ystod ehangach fyth o arbenigwyr ac arbenigedd. Rwy’n sicr y bydd penaethiaid heddiw yn dweud wrtha i lle i fynd wrth gwblhau fy nhasg nesaf hefyd.
(Visited 85 times, 1 visits today)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *